Ulteriori informazioni
(Welsh translation of the stories of H. P. Lovecraft)
'Nid marw yw'r sawl a huna'n fythol brudd;Daw tranc marwolaeth, hyd yn oed, ryw ddydd.'Yr Americanwr H. P. Lovecraft yw un o lenorion pwysicaf meysydd ffuglen arswyd, ffuglen wyddonol a ffantasi. Fel yn achos Orwell a Kafka, mor wreiddiol a neilltuol yw ei arddull a'i destunau fel y bathwyd yr ansoddair Lovecraftaidd i ddisgrifio ffuglen yn yr un
genre.
Mae ei straeon yn gyforiog o ddirgelwch a chyffro. Ceir ynddynt gyfrinachau sydd yn llechu ar wely'r môr... siambrau tywyll ymhell islaw'r ddaear... hen lyfrau'n cuddio cyfrinachau oes... a chreaduriaid erchyll sydd y tu hwnt i amgyffred pobl!
Dyma'r tro cyntaf i ffuglen Lovecraft ymddangos yn y Gymraeg. Mae'r casgliad yn cynnwys pump o straeon enwocaf yr awdur gan gynnwys
Galwad Cthulhu, stori fythgofiadwy a gyflwynodd i'r byd yr anghenfil tentaclog o'r sêr, Cthulhu. Y cyfeiithydd, Peredur Glyn, yw awdur
Pumed Gainc y Mabinogi a
Cysgod y Mabinogi, gweithiau wedi'u hysbrydoli'n uniongyrchol gan waith H. P. Lovecraft.